Mae'r wybodaeth isod hefyd ar gael yn Saesneg
Yn nodweddiadol bydd gan berson sydd wedi graddio yn y Gymraeg y gallu i:
Mae'r Gymraeg yn ddisgyblaeth academaidd eang ac amrywiol o ofynion sy'n golygu creu, cyflwyno a dehongli testunau ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â natur a hanes yr iaith a'r cyfleoedd sy'n agored iddi yn y byd sydd ohoni. Mae astudio'r Gymraeg yn meithrin agwedd meddwl-agored a hyblyg a'r gallu i werthuso gwahanol gysyniadau a'u cyflwyno gan ddefnyddio iaith lafar ac ysgrifenedig briodol; mae'n galluogi myfyrwyr i drafod a dehongli diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol, ynghyd â datblygiadau cyfoes yn y byd modern.
Mae'r Gymraeg yn agored i ddylanwadau byd rhyngwladol cyfoes y mae Cymru'n rhan ohono. Mae agwedd y rhai sy'n siarad Cymraeg yn debyg i rai trigolion y byd gorllewinol yn gyffredinol ac mae'r dulliau o ysgrifennu llenyddiaeth ac o gyfathrebu yn y Gymraeg yn fwy amrywiol yn awr nag y buont erioed. Mae'r iaith yn wynebu newidiadau sylweddol sy'n gosod cyfrifoldeb penodol ar y rhai hynny sy'n ymwneud â'r pwnc i ddiogelu ei sail a'i phriodoleddau wrth iddi ddatblygu ac wrth i'r ystod o gyfleoedd a'r dulliau newydd o ddefnyddio'r Gymraeg gyflwyno eu hunain.
Calon y pwnc yw'r Gymraeg, ei natur, ei hanes a'i sefyllfa bresennol, a llenyddiaeth Gymraeg ym mhob cyfnod. Gall astudiaethau llenyddol gynnwys drama, ffilm, chwedlau ac ysgrifennu creadigol. Nodweddir y Gymraeg gan ei hanes maith a chryfder ei thraddodiad llenyddol ers y Canol Oesoedd. Mae rhai cyrsiau gradd yn cynnig y cyfle i astudio cyfnodau penodol, neu fathau o lenyddiaeth, neu agweddau ar iaith yn fanwl.
Gall gradd yn y Gymraeg gynnwys astudio un neu fwy o'r ieithoedd Celtaidd eraill a'u llenyddiaeth, gwaith mewn ieithoedd eraill a sefyllfaoedd amlieithog tebyg. Gellir cynnwys disgyblaethau academaidd eraill gan gynnwys theori llenyddiaeth, ieithyddiaeth, ieithoedd modern, Saesneg, astudiaethau clasurol, hanes, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg. Mae rhai myfyriwr yn cyfuno'r Gymraeg gyda'r pynciau hyn, ac mae yna nifer o gyfleoedd ar gael ar gyfer astudiaethau rhyngddisgyblaethol a chymharol.
Gyda chynnydd yn y galw am wybodaeth o'r Gymraeg mewn nifer o feysydd, yn enwedig addysg, y cyfryngau, llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus, mae'r radd yn gymhwyster gwerthfawr ar gyfer swyddi sy'n gofyn am bersonél dwyieithog ac mae graddedigion yn y Gymraeg yn dilyn amrywiaeth o yrfaoedd. Yn dilyn y Ddeddf Iaith (1993), cynyddodd y galw yn fawr am weinyddwyr dwyieithog mewn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, awdurdodau heddlu a masnach yn gyffredin. Cyflogir nifer o raddedigion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn amryw o swyddi.
Gellir dod o hyd i ddeunydd ychwanegol gan gynnwys y map Sgiliau a Phriodoleddau ar gyfer y ddisgyblaeth yn www.llas.ac.uk/index.aspx. Gan fod Canolfannau Pwnc wedi, ac yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau i gefnogi'r defnydd o'r Proffiliau a chyflogadwyedd, mae'n bwysig gwirio gwefan y Ganolfan am y wybodaeth fwyaf cynhwysfawr a'r datblygiadau diweddaraf.
Seiliwyd y Proffil Disgyblaeth (2006) hwn ar faincnod yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/benchmark/honours/default.asp.