Yn yr adran hon, gallwch newid eich cyfrinair a'ch cwestiynau ac atebion diogelwch. Gallwch chi hefyd ddewis llenwi eich cais yn Gymraeg yn hytrach nag yn Saesneg.
Os ydych chi wedi gwneud cais fel unigolyn, ond y dylech chi fod yn rhan o ysgol, coleg neu ganolfan, gallwch ofyn am gael eich cysylltu â'r ganolfan honno yma. Os ydych chi'n gwneud cais yn annibynnol, ond am i ysgol neu goleg ysgrifennu geirda i chi, gallwch ofyn iddynt ei lenwi ar-lein - byddwn yn anfon eich dymuniad atynt.
Edrychwch ar yr adrannau cymorth yn Ymgeisio (cliciwch ar y marciau cwestiwn) neu ewch i adran ymgeisio ucas.com i gael cyngor.