Bydd darnau o'r adran hon yn cael eu llenwi'n barod ar eich cyfer, gan ddefnyddio'r manylion a roesoch wrth gofrestru. Dylech ofalu bod y wybodaeth hon yn gywir, fel eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch manylion cyswllt. Byddwn yn gofyn hefyd am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar y prifysgolion a'r colegau, fel eich cenedligrwydd, eich statws preswyl ac unrhyw anableddau sydd gennych.