Os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig, byddwn yn gofyn am fanylion unrhyw weithgareddau rydych chi wedi cymryd rhan ynddynt er mwyn paratoi at addysg uwch (megis ysgolion haf, diwrnodau campws, cyrsiau blasu) ac am wybodaeth arall a fydd yn ein helpu ni a'r prifysgolion a cholegau i fonitro ceisiadau a chyfleoedd cyfartal, megis eich hunaniaeth genedlaethol a'ch tarddiad ethnig.