LinkedinGoogle+YouTubeFacebookTwitter

Geirda

Bydd angen geirda gan diwtor, ymgynghorydd gyrfa neu weithiwr proffesiynol arall sy'n eich adnabod yn ddigon da i ysgrifennu amdanoch ac i wybod pa mor addas ydych chi i'r cwrs. Os ydych chi'n gwneud cais drwy ysgol neu goleg, bydd eich canolwr yn llenwi'r adran hon. Os ydych chi'n gwneud cais yn annibynnol, rhowch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt e-bost y canolwr yn eich cais. Unwaith y byddwch wedi cwblhau hwn ac wedi gofyn i'ch canolwr ysgrifennu eich geirda, byddwn wedyn yn anfon manylion mewngofnodi a chyfrinair atynt, fel y gallant gyflwyno eich geirda. Ni fyddwch yn gallu cwblhau, talu nac anfon eich cais nes bod eich geirda wedi'i gwblhau.

Mae'r delweddau hyn yn dangos rhai o'r cwestiynau: cliciwch ar ddelwedd i'w chwyddo

geirda 1
Adran geirda Ymgeisio

Ewch i'r adran nesaf: Datganiad >>