Ar ôl i chi dalu, bydd eich cais yn cael ei anfon atom ni neu, os ydych chi'n gwneud cais drwy'ch ysgol neu goleg, at eich canolwr fel y gall ychwanegu'r geirda. Ar ôl i ni gael eich cais, ni ellir ei newid. Byddwn yn ei brosesu, yn ei anfon at bob un o'ch prifysgolion a cholegau dewisol, ac yn anfon llythyr atoch drwy'r post yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf.