Mae angen i ni wybod ymhle rydych chi wedi astudio a pha gymwysterau rydych chi'n gweithio tuag atynt neu wedi'u hennill. Byddwn yn gofyn i chi nodi eich ysgolion neu'ch colegau a rhestru'ch cymwysterau. Bydd hefyd gofyn i chi ddewis y lefel uchaf o gymhwyster bydd gennych cyn i chi ddechrau eich cwrs. Cofiwch nodi pob cymhwyster perthnasol, gan gynnwys unrhyw rai rydych chi wedi eu cwblhau ac unrhyw rai rydych chi'n gweithio tuag atynt.