Rhaid cael enw defnyddiwr a chyfrinair i ddefnyddio system Ymgeisio. Os bydd ymgeisydd neu aelod o'r staff yn anghofio'u cyfrinair, gall cydlynwyr ei newid yn yr adran hon. Dim ond os oes ganddynt yr hawliau angenrheidiol y caiff aelodau unigol o'r staff wneud hynny. Os bydd ymgeisydd neu aelod o'r staff wedi'u 'cloi allan' o'r system Ymgeisio ar ôl teipio'r manylion cyflwyno anghywir bum gwaith, mae'n bosib datgloi eu cais yn yr adran hon.