System ar-lein yw Ymgeisio sy'n caniatáu i ymgeiswyr wneud cais am gyrsiau amser llawn i israddedigion mewn prifysgol a cholegau yng nghynllun UCAS. Mae hefyd yn caniatáu i ganolfannau sydd wedi cofrestru weinyddu'r broses ymgeisio ar-lein.
Mae'r arweiniad hwn i staff yn egluro'r prif gamau yn y broses, o osod y system yn eich sefydliad chi'ch hun i anfon ceisiadau cyflawn at UCAS. Mae'r adrannau canlynol ar gael, gan ddibynnu ar ba fath o hawliau sydd gennych.
Bydd darpar fyfyrwyr yn gwneud cais drwy eich canolfan drwy gyfrwng ein system ymgeisio ddiogel ar-lein. Dim ond ar ôl i chi gofrestru i ddefnyddio'r cyfleuster hwn y bydd ar gael i ymgeiswyr. Ar ôl i ymgeisydd lenwi cais ar-lein, a thalu'r swm priodol, trosglwyddir y cais i ardal y staff er mwyn ychwanegu geirda a'i gymeradwyo, gwirio'r cais i gyd, cadarnhau ei fod yn gywir a dilysu'r taliad. Yn olaf, anfonir y cais cyflawn dilys hwn atom i'w brosesu.
Mae esboniadau llawn a thestun help ar gael ar-lein ar gyfer pob adran.