LinkedinGoogle+YouTubeFacebookTwitter

Tracio eich cais

View this page in English

Gweithio ar gyfrifiadur

Gallwch ddilyn trywydd eich cais gan ddefnyddio Track. Pan fydd pob prifysgol neu goleg yn gwneud penderfyniad ynghylch eich cais, dangosir y manylion ar Track.

Os gwnaethoch roi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost pan fydd penderfyniad wedi'i wneud. Er mwyn gwarchod gwybodaeth gyfrinachol, ni fydd yr e-bost yn cynnwys yr union benderfyniad: bydd dal angen i chi fynd i Track i weld y manylion.

Os byddwch yn cael cynnig gan un o'r prifysgolion neu'r colegau o'ch dewis, dangosir llythyr ar-lein ar Track. Bydd y llythyr yn dangos manylion y cynnig ac unrhyw wybodaeth ategol angenrheidiol - cewch ddewis eu gweld yn Gymraeg neu Saesneg.

Gallwch ddefnyddio Track hefyd i dderbyn neu wrthod cynigion ac i newid manylion personol, megis eich cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.