Mae Ymgeisio yn system sy'n caniatáu i chi wneud cais ar-lein am gyrsiau israddedig amser llawn mewn prifysgolion a cholegau yn y DU. Gofynnir i chi lenwi'r adrannau canlynol:
Bydd angen i chi nodi bod pob adran wedi'i llenwi cyn i chi anfon eich cais atom.
Os ydych chi'n gwneud cais i brifysgolion neu golegau yng Nghymru yn unig, gallwch chi ddewis llenwi'ch cais i gyd yn Gymraeg. I gofrestru yn y Gymraeg, ewch i Ymgeisio a chlicio ar y ddolen gofrestru. Ar y ffenestr newydd, dewiswch Cymraeg o'r gwymprestr ar ochr chwith y sgrin. Ar ôl i chi fewngofnodi yn Ymgeisio, gallwch newid yr iaith o Saesneg i Gymraeg yn yr adran 'Opsiynau'.
Mae'r holl destun cymorth ar gael yn y Gymraeg ac mae dau fath o gymorth ar gael. Rydym yn cynnig cymorth sy'n rhoi gwybodaeth gyffredinol am y dudalen dan sylw, a chymorth penodol ar gyfer unrhyw faes lle mae angen nodi manylion neu nodi dewis ar y sgrin. Cofiwch ddarllen y testun cymorth cyn llenwi'ch cais.
Yn Ymgeisio, gallwch ofyn am gael pob gohebiaeth gan brifysgol neu goleg yng Nghymru mewn perthynas â'ch cais wedi'i hysgrifennu yn y Gymraeg. Bydd unrhyw lythyrau gennym ninnau hefyd yn y Gymraeg. I ddewis cael llythyrau Cymraeg, ewch i'r adran gwybodaeth Ychwanegol yn Ymgeisio.
I gael gwybodaeth lawn am sut i ymgeisio, ewch i adran Cam 2: Ymgeisio (testun Saesneg) ar y wefan hon (dim ond yn Saesneg y mae'r adran ar gael).