LinkedinGoogle+YouTubeFacebookTwitter

Pam astudio yn y Gymraeg?

View this page in English

Myfyrwyr yn trafod dros ginio

Yng Nghymru, mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn fantais sylweddol i raddedigion sy'n chwilio am waith. Mae dros 582,000 o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg ac mae ymchwil yn dangos bod gweithwyr â sgiliau dwyieithog yn fwy tebygol o ennill cyflog 8-10% yn uwch na gweithwyr heb sgiliau dwyieithog. Gall y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle roi mantais bendant i chi dros eich cystadleuwyr.

Y dyddiau hyn mae'n bosib astudio pob math o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, o newyddiaduriaeth i seicoleg, i'r gyfraith a'r amgylchedd - mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Mae modd cael cyllid os ydych chi'n astudio cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau sy'n werth hyd at £3000 am astudio cwrs - neu rhan o'ch cwrs - trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, ac i weld pa bynciau sy'n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, cysylltwch â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 0844 800 7375, e-bostiwch gwybodaeth@mantais.ac.uk neu ewch i wefan www.mantais.ac.uk