Os ydych yn byw yng Nghymru fel arfer mae'n bosib fod gennych hawl i fwy o gymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (ee Grant Dysgu'r Cynulliad neu Gronfeydd Ariannol Wrth Gefn).
Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Gwasanaeth dan arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn, sy'n darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru fel arfer. Gallwch hefyd ddod o hyd i ystod o wybodaeth sy'n ymwneud â chyllid myfyrwyr trwy ddefnyddio Canolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFWCC) ar 0845 602 8845.
Ceir rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu ar ein prif dudalen cyllid myfyrwyr.
Wrth astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael arian ychwanegol oddi wrth y corff sy'n darparu eich cwrs. Mae hefyd ddau gynllun noddi penodol sy'n cynnig £1500 dros dair blynedd a chyfle i gael profiad gwaith wrth i chi astudio yn y brifysgol. Mae'r rhain ar gael ar hyn o bryd i'r rheiny sy'n astudio pynciau sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'r Gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau noddi addysg uwch cyfrwng Cymraeg a/neu daliadau ychwanegol, cysylltwch â'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg ar 0844 800 7375 neu e-bostiwch gwybodaeth@mantais.ac.uk. Ewch i'r wefan www.mantais.ac.uk
Mae gofyn cynllunio er mwyn dysgu rheoli'ch arian yn y brifysgol neu'r coleg. Bydd angen i chi ddysgu trin eich arian a byw o fewn eich modd - fel hyn fe welwch ei bod yn llawer haws i chi gynnal eich hun heb fynd i ddyled fawr. Darllenwch ein hadran Rheoli'ch arian (testun Saesneg) i gael awgrymiadau a chyngor, a defnyddiwch ein cyfrifiannell cyllidebu i'ch helpu i gynllunio'ch cyllid.